Tuesday 28 April 2015

Mis Ebrill 2015 / April 2015




  

Mis Ebrill 2015 /April 2015

Mae'n amser prysur iawn o'r flwyddyn yn yr ardd.  Popeth yn dechra tyfu (neu beidio!).
Wrth fynd o amgylch yr ardd gweld rhywbeth newydd bob dydd ac ymfalchio ei fod wedi goroesi'r gaeaf oer a gwlyb. Digon y tro hwn i ddangos lluniau o beth sydd yn tyfu yn yr ardd adeg yma'r flwyddyn.

This is the time of year the garden explodes into growth and colour.  An exciting time-looking to see if our precious plants have survived the cold harsh winter.  Every morning reveals something new. Suffice it for me to show you in this Blog what grows this month in our garden.


Yn flynyddol byddwn yn trefnu 'fel teulu' pererindod fyny llethrau Cader Idris er mwyn gweld y Tormaen Piws (Saxifraga oppositifolia).  Rhyfeddod ei fod yn goroesi yr elfennau ac yna yn blodeuo am gyfnod byr iawn.  Gwerth yr ymdrech o'i gyrraedd.

Saxifraga oppositifolia on Cader Idris
Helleborus orientalis with picotee edge

Erythronium - dog's tooth violet, with its spotted leaves

Trillium - where everything is a multiple of three!
Magnolia Soulangeana against the bright blue sky
Anemone nemorosa in amongst the leaf litter
Magnolia Merrill in full flower


Lastly take time out to visit other gardens for inspiration.  
We visited Castell Powys near Welshpool where we saw Fritilleries growing in amongst the grass.
This we will now try in our own garden and next year who knows what we will find?












Wednesday 1 April 2015

Mis Mawrth /March 2015

Mis Mawrth /March 2015



                                                            



Ar ddechra Mis Mawrth mae gweld yr Iris reticulata yma yn tyfu mewn potyn wrth ddrws cefn y ty yn wledd i'r llygaid ac yn ddigon i godi calon unrhyw un am yr hyn sydd i ddod.

The Iris reticulata with its striking blue petals is native to Russia, the Caucasus and northern Iran.  
They are hardy and prefer a well drained sunny position which dries out in summer.


Planhigyn sy'n blodeuo ar wal gefn y ty ydi hwn.  Mae'r gwenyn wrth eu bodd yn hel neithdar a bwyd oddiwrtho.  Does gen i ddim syniad o'i enw!  Allwch chi fy helpu?

This plant has no name as I have forgotten to label it!  Do you know what it's called?  Let me know.
The bees enjoy visiting the flowers as it provides an early supply of nectar and sugar.



Dyma ymwelydd blynyddol i'r pwll yn yr ardd.  Yma mae'r gwryw i'w weld ar gefn y fanyw ac yn gafael yn dyn o amgylch ei chanol.  Tra mae hi wrthi yn brysur dodwy wyau mae yntau yn ei ffrwythloni.

Frogs are very welcome visitors to the pond.  We know when they have arrived due to the loud mating call of the male advertising the fact that he is ready and waiting!



Ers cyflwyno chwid i'r pwll mae nifer y llyffantod wedi lleihau ac hefyd nifer y malwod!

Since the introduction of 10 call ducks to the pond the balance of nature has been changed and fewer frogs visit the pond but also fewer slugs!


Narcissus Tete a tete mewn potia pridd wrth ddrws y cefn yn llawn blodau.  Hawdd iawn i'w tyfu ac wedi iddynt orffen blodeuo byddwn yn eu planu allan yn yr ardd er mwyn gwneud mwy o sioe at flwyddyn nesa.

These delightful miniature daffodils (tete a tete) will brighten even the dullest of spring days and will provide a spectacle for a good month.  The are undemanding and easy to grow in borders or containers as shown. Once they have finished flowering we will transfer them into the soil where they will grow and make bold drifts naturalised within the grass



Tra gwahanol ydi'r Narcissuss cyclamineus bach yma sy'n hadu ei hyn yn y borderi ac yn y gwair.
This Narcissus cyclamineus is found self seeding in borders and grass and provides welcome colour in early spring




Beth gwell na lliw glas yr Hepatica transsilvanica yma i oleuo cornel dywyll

Hepatica is named from its leaves which like the human liver has three lobes.  It was believed at one time to be effective as a treatment for liver disorders  although poisonous in large quantities!



Mae mis Mawrth yn amser tacluso, hollti, amlhau, tocio a thori'n ol!  Felly llawer i'w wneud er mwyn darparu'r ardd ar gyfer y tymor i ddod.

A busy time in the garden preparing the soil and plants for the coming season.
Plants can now be split to make new plants, cut back to neaten and prune out old growth.
Take time to enjoy the garden and decicde where needs attention.