Chwefror / February 2015
Amser trwsio'r hen 'fwrdd' ar gyfer y cychod gwenyn, neu gwneud un newydd sbon fel mae Jon wedi gwneud yn fan hyn!
Jon has taken time to create a new bench for the beehives. Far superior to the old one (which as we took it out of the ground gave up the ghost). We now have space either side of each hive which can be used when inspecting the hives. It also means we don't have as far to lift the supers (heavy work when they are full of stores).
'Sgerbwd Hydrange Annabelle yn dal i edrych yn bensaerniol ac yn rhoi rhyw fath o strwythur i'r ardd yn y gaeaf. Ond bron yn amser i'w thori'n ol oherwydd mae blagur y flwyddyn nesa yn dechra dangos.
Nearly time to cut back the remnants of the flower heads of Hydrangea Annabelle which have provided a structural focal point to the winter garden
Gweddillion gwair yn barod i fynd i'r domen er mwyn gwneud lle i'r tyfiant newydd.
Seedheads of grass ready for the compost heap. Their removal will allow new growth to push through
Os bydd amser a tywydd yn caniatau, yna byddwn yn gwagio'r domen ar ben y pridd fel 'mulch'. Ond rhaid peidio gwneud hyn os oes rhew neu eira.
Mulch any empty pieces of land with composted material from the compost heap but only if the ground is frost and snow free.
Crocus tomassinianus mewn gwair yn agor ar ddiwrnod heulog i ddangos lliw saffrwn y briger.
On a warm sunny day Crocus tomassinianus will open to show its saffron coloured anthers.
Pan fyddwn yn gwagio lludw allan o'r 'woodburner' byddaf yn rhoi y lludw llawn potash ar y cyrins duon i hybu tyfiant a ffrwytho.
Woodash from the woodburner is used as feed for the blackcurrants.
Amser cael gwared o nyth 'deryn du cyn bod y clematis yn ei orchuddio!
Time for a clear out. This blackbird's nest needs clearing before the clematis starts to grow!
No comments:
Post a Comment